Mae pobl draws yng Nghymru wedi cael eu gadael mewn ansicrwydd yn dilyn penderfyniad gan GIG Cymru i atal mynediad at lawdriniaethau cadarnhau rhywedd heb rybudd.
Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi cael cyfarwyddyd i stopio cyfeirio pobl ar gyfer llawdriniaeth, ac mae llawdriniaethau pobl a oedd eisoes wedi trefnu dyddiadau wedi cael eu canslo heb unrhyw rybudd. Mae hyn yn cynnwys pobl a oedd eisoes yn yr ysbyty ac yn barod ar gyfer eu llawdriniaethau.
Mae’r ataliad sydyn hwn wedi cael effaith ddinistriol ar iechyd meddwl, sefydlogrwydd, gwaith a bywyd teuluol pobl, ac i rai, ar eu hiechyd corfforol a’u lles ariannol. Mae llawer wedi treulio blynyddoedd yn disgwyl am ofal, dim ond i hwnnw gael ei dynnu’n ôl ar y funud olaf.
Cafodd y penderfyniad ei wneud gan Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru, sy’n honni bod y penderfyniad wedi’i wneud ar ôl derbyn cwynion a “phryderon.” Ac eto, maent hefyd yn cyfaddef nad ydynt yn ymwybodol o unrhyw gleifion sydd wedi dioddef niwed o ganlyniad i gael eu cyfeirio ar gyfer llawdriniaeth cadarnhau rhywedd. Yr unig niwed y mae unrhyw un wedi cyflwyno tystiolaeth ohono yw’r niwed a achoswyd gan yr ataliad ei hun.
Yr hyn y mae’r Cyd-bwyllgor Comisiynu yn ei alw’n “bryderon”
Dim ond dau fater y mae’r Cyd-bwyllgor Comisiynu wedi’u nodi:
- Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn gwneud mwy o gyfeiriadau llawfeddygol na gwasanaethau rhywedd Lloegr.
- Codwyd pryderon amhenodol “sy’n ystyried agweddau ar brosesau atgyfeirio ac asesu”, gan gynnwys lle mae cleifion wedi cael eu hatgyfeirio ond nad ydynt wedi mynd ymlaen i gael llawdriniaeth – er bod yr Cyd-bwyllgor Comisiynu wedi cyfaddef bod dim o’r rhain yn ymwneud â “pryderon diogelwch claf uniongyrchol”.
Mae’r sefyllfa hon yn ddigynsail — ac yn annheg
Mae’n anghyffredin iawn i ofal iechyd hanfodol gael ei dynnu’n ôl pan nad oes tystiolaeth o niwed difrifol, camymddygiad proffesiynol nac arferion anniogel. Mae pobl draws yng Nghymru yn cael eu cosbi, i bob pwrpas, am gael mynediad at wasanaeth rhywedd mwy effeithlon na’r rhai yn Lloegr.
Nid yw hyn yn deg. Gwyddom hyn. Gwyddoch chi hyn. A dylai Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru wybod hyn hefyd.
Dyna pam rydym yn gofyn i chi ymuno â ni i ysgrifennu at Juliet Brown, Prif Gomisiynydd GIG Cymru, i fynnu camau brys.
Mae ein ceisiadau yn syml ac yn rhesymol
Gofynnwn i’r Pwyllgor Comisiynu ar y Cyd:
- ailsefydlu mynediad at lawdriniaeth ar unwaith
- Cyhoeddi ymddiheuriad ffurfiol ac ailsefydlu atebolrwydd
Sut gallwch chi helpu
Ymunwch â ni i ysgrifennu at Juliet Brown. Os ydych chi, neu rywun annwyl i chi, wedi cael eich effeithio’n bersonol gan y sefyllfa hon, addaswch y templed llythyr i gynnwys eich profiadau eich hun.
Mae eich llais yn bwysig, ac mae tystiolaeth bersonol yn bwysig ac yn bwerus
Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod pobl traws yng Nghymru yn cael mynediad yn ôl at y gofal iechyd y maent eisoes wedi aros llawer rhy hir amdano.
English: Take Action to Restore Access to Gender‑Affirming Surgeries in Wales
